Donald Trump Llun: Wikiepdia
Fe fydd y ddadl ynglŷn â gorchymyn Donald Trump i wahardd teithwyr a ffoaduriaid yn cael ei hystyried gan y Goruchaf Lys yn yr Unol Daleithiau heddiw.

Mae’r Adran Gyfiawnder wedi apelio yn erbyn gwaharddiad yr Arlywydd ar deithwyr o saith gwlad Mwslemaidd yn bennaf, wrth i lys apêl ffederal ystyried a ddylid adfer y gorchymyn.

Mae cyfreithwyr yn dadlau bod y gwaharddiad yn gyfreithlon a bod yr arlywydd yn ceisio diogelu’r wlad ac y dylai gorchymyn barnwr i atal y polisi gael ei wyrdroi.