Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i greu 100,000 o brentisiaethau newydd dros gyfnod o bum mlynedd.

Pwrpas y cynllun yw cynyddu lefelau sgiliau mewn meysydd lle mae yna brinder sgiliau yn bresennol yn bennaf meysydd  technoleg gwybodaeth, peirianneg, adeiladu a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

Bydd y polisi a gafodd ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â busnesau, yn targedu pobol rhwng 16 ac 19 oed gan annog pobol sy’n gadael ysgol i wneud prentisiaethau.

Ardoll Brentisiaethau

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi amlinellu sut maen nhw’n mynd i ymdrin â’r Ardoll Brentisiaethau – treth fydd yn gorfodi cwmnïau sy’n ennill dros £3 miliwn i gyfrannu at gostau prentisiaethau o Ebrill ymlaen.

Bydd Llywodraeth Cymru’n cynyddu ei buddsoddiad mewn prentisiaethau o £96m i £111m yn 2017-18 ac o’r cyllid ychwanegol, caiff £15.5m ei fuddsoddi eleni i sicrhau na fydd cyflogwyr dan anfantais o ganlyniad i’r Ardoll Brentisiaethau.

“Gwerth Prentisiaethau”

“Mae’r polisi hwn yn tanlinellu ein bwriad i baratoi ar gyfer swyddi’r dyfodol, fydd yn gofyn am lefelau llawer uwch o fedrusrwydd nag yn y gorffennol,” meddai’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James.

“Bydd hyn yn anfon neges gref am werth prentisiaethau ac addysg dechnegol wrth gynorthwyo pobl i mewn i gyflogaeth a hunangyflogaeth gynaliadwy.”