Arweinydd Burma, Aung San Suu Kyi (Llun: PA)
Mae ymgynghorydd cyfreithiol y Gynghrair Ddemocratiaeth Genedlaethol wedi cael ei ddienyddio mewn maes awyr yn Burma.

Roedd Ko Ni yn un o ymgynghorwyr pennaf arweinydd y wlad, Aung San Suu Kyi.

Cafodd ei saethu yn ei ben wrth gerdded allan o faes awyr Rangoon.

Mae lle i gredu bod yr un unigolyn wedi saethu gyrrwr tacsi oedd wedi ceisio’i atal rhag ffoi.

Mae Gweinyddiaeth Wybodaeth Burma wedi enwi’r unigolyn, Kyi Linn o Mandalay, ond dydyn nhw ddim yn gwybod pam ei fod e wedi saethu’r ymgynghorydd.

Roedd Ko Ni yn un o aelodau Mwslimaidd amlycaf yr NLD, ac roedd yn feirniadol o’r blaid yn 2015 am iddyn nhw fethu â dewis ymgeiswyr Mwslimaidd ar gyfer etholiadau’r wlad.

Roedd Ko Ni yn gyfreithiwr, ac roedd ganddo ei gwmni ei hun.