Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump
Mae deiseb wedi cael ei sefydlu yn galw ar Lywodraeth Prydain i ganslo ymweliad swyddogol Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump â gwledydd Prydain.

Daw’r alwad yn sgil y penderfyniad i atal tramorwyr rhag teithio i’r Unol Daleithiau yn sgil pryderon am frawychiaeth.

Cafodd Donald Trump ei wahodd ar ymweliad yn dilyn ei urddo’n Arlywydd yr Unol Daleithiau, ac mae disgwyl iddo gael croeso swyddogol gan y Frenhines.

Ond mae 100,000 o bobol wedi llofnodi deiseb er mwyn i’r mater gael ei drafod gan aelodau seneddol.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron a llefarydd materion tramor yr SNP Alex Salmond ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu gweithredoedd Donald Trump ac sy’n galw am ganslo’r ymweliad.

‘Cyfle am ffotograffau a chael ei weld gyda’r Frenhines’

Dywedodd sylfaenydd y ddeiseb, Graham Guest wrth Press Association ei fod yn gofidio y byddai Donald Trump yn manteisio ar ei ymweliad er mwyn cael tynnu ei lun gyda’r Frenhines mewn ymgais i godi ei boblogrwydd yn yr Unol Daleithiau.

“Mae ymweliad gwladol yn dilysu ei arlywyddiaeth ac fe fydd e’n defnyddio’r cyfleoedd am luniau a chael ei weld gyda’r Frenhines i gael ei ail-ethol.

“Mae geiriau’r ddeiseb yn eithaf manwl gan fy mod i’n dweud y dylai ddod yma fel pennaeth llywodraeth i gynnal busnes llywodraeth-i-lywodraeth.

“Ar ddiwedd y dydd, mae e’n dal i fod yn arlywydd a rhaid i ni fyw gyda hynny. Ond does dim rheswm pam ddylai gael holl rwysg a chyhoeddusrwydd ymweliad gwladol.

“Unrhyw beth i wneud ei fywyd yn fwy anghysurus… Dw i’n credu y byddai dadl yn y Senedd i wahardd ymweliad gwladol yn wych gan y bydd pobol wedi cael cyfle i leisio’u barn amdano fe.

“Diben y ddeiseb yw codi cymaint o sŵn â phosib a’i roi e dan y goleuadau a dangos cymaint o ddyn ofnadwy yw e.”