Mae o leia’ 30 o bobol ar goll ar ôl i gwymp eira gladdu gwesty yn y mynyddoedd yng nghanolbarth yr Eidal.

Dywedodd yr asiantaeth diogelwch sifil ei bod yn ceisio cael cerbydau achub i Westy Rigopiano yn Abruzzo drwy ffyrdd sydd wedi’u gorchuddio ag eira.

Mae timau achub mynyddig hefyd wedi bod ers yr oriau mân bore yma yn ceisio achub pobol oedd yn y gwesty.

Dywedodd un achubwr fod pobol wedi marw, ond does dim manylion pellach na chadarnhad eto.

Gorchuddio tri llawr

Yn ôl gwasg yr Eidal, fe wnaeth y cwymp eira orchuddio’r gwesty tair llaw ddydd Mercher. Mae’r gwesty tua 30 milltir o’r ddinas arfordirol, Pescara.

Mae fideo yn dangos achubwyr yn palu â rhawiau drwy’r wal o eira, gydag o leiaf un dyn yn cael ei arwain drwy lwybr clir.

Fe wnaeth daeargrynfeydd fwrw’r rhanbarth ddydd Mercher, gan gynnwys un o gryfder 5.7, ond dydy hi ddim yn glir eto ai dyma beth achosodd y cwymp eira.