Mae lori’n cario tywod wedi bod mewn gwrthdrawiad â bws ysgol, gan ladd o leia’ 24 o blant ifanc yn nhalaith Uttar Pradesh yng ngogledd India.

Mae beth bynnag ddau ddwsin o blant hefyd wedi’u hanafu wedi’r ddamwain rhwng y lori, a oedd yn teithio ar dipyn o gyflymder, fynd ben-ben â’r bws.

Roedd y plant, rhwng 3 a 12 oed, ar eu ffordd i’r ysgol yn nhre’ Etah.

Mae adroddiadau lleol yn dweud ei bod hi’n niwlog ben bore Iau, ac y gallai hynny fod i gyfri’ am y gwrthdrawiad.