Mae seren ffilmiau Bollywood, Salman Khan wedi’i gael yn ddieuog o hela antelopiaid heb drwydded 18 o flynyddoedd yn ôl.

Mae system llysoedd India’n adnabyddus am fod yn eithriadol o araf. Roedd yr actor 51 oed yn y llys yn Rajasthan i glywed y dyfarniad.

Yn ôl erlynwyr, roedd ei drwydded wedi dod i ben yn 1998, flwyddyn cyn y drosedd honedig.

Dywedodd ei gyfreithiwr fod yr achos wedi cael ei roi o’r neilltu oherwydd diffyg tystiolaeth. Fe allai fod wedi cael dedfryd o hyd at saith mlynedd dan glo pe bai’r llys wedi ei ganfod yn euog.