Mae cannoedd o filoedd o bobol wedi heidio i’r strydoedd yn Tehran heddiw ar gyfer angladd cyn-arweinydd Iran, Akbar Hashemi Rafsanjani, a fu farw dros y Sul yn 82 oed.
Fe gynhaliwyd y seremoni ynm Mhrifysgol Tehran, lle bu Goruwch Arweinydd y wlad, Ayatollah Ali Khamenei, yn gweddïo, a lle bu pwysigion yn penlinio ger yr arch. Mae heddiw’n ddiwrnod o wyliau ledled Iran.
Ond er mai fel arweinydd rhyddfrydol y bydd Akbar Hashemi Rafsanjani yn cael ei gofio, mae pobol o begwn arall y byd gwleidyddol wedi bod yn talu teyrnged yn gyhoeddus iddo.
Yn eu plith y mae Qassem Soleimani, milwr sy’n bennaeth ar lu’r Quds, sy’n canolbwyntio ar ymgyrchoedd tramor fel y rhyfel yn Syria.