Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl saethu pump o bobol yn farw mewn maes awyr yn Fflorida.
Tynnodd y dyn ddryll o’i fag ym maes awyr Fort Lauderdale cyn saethu ar hap, gan anafu wyth o bobol.
Cafodd ei arestio a’i gadw yn y ddalfa, ac mae e wedi’i enwi gan yr awdurdodau fel Esteban Santiago, cyn-filwr a dreuliodd amser yn Irac ond a gafodd ei ryddhau o’r fyddin y llynedd am berfformiad gwael.
Mae lle i gredu ei fod e wedi bod yn derbyn triniaeth seiciatrig.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn y bryd pam y saethodd at bobol.
Mae hi’n gyfreithlon mynd â dryllau ar awyrennau, dim ond eu bod nhw’n cael eu cadw mewn bagiau, ac mae’n rhaid rhoi gwybod i staff y maes awyr.
Mae lle i gredu ei fod e wedi teithio o Alaska i Fflorida, ac mae awdurdodau yng Nghanada’n gwadu ei fod e ar un o awyrennau’r wlad honno cyn cyrraedd Fort Lauderdale.