Mae Cyngor Gwynedd eisiau tanio trafodaeth ymysg trigolion Bangor ar sut i fuddsoddi miliynau o bunnau yn addysg gynradd y ddinas.
Fe lwyddodd Adran Addysg y cyngor gyda chais i ddenu £6.365 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella addysg ym Mangor, yn amodol ar gyflwyno cynllun busnes boddhaol.
Mi fyddai’r pecyn cyfan yn £12.730 miliwn ac yn cynnwys cyfraniadau gan Gyngor Gwynedd a chwmni adeiladu tai Redrow, sydd wedi codi 245 o dai newydd yn Goetre Uchaf yn ardal Penrhosgarnedd o’r ddinas.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud ‘bod potensial y bydd dros 90 o blant oed cynradd a 70 o blant oed uwchradd yn byw’ yn y tai newydd hyn.
Mewn datganiad fe nododd Cyngor Gwynedd: ‘Gyda rhai o ysgolion cynradd eisoes dros gapasiti ynghyd â’r ffaith fod potensial am gynnydd pellach yn niferoedd disgyblion yn y dyfodol, mae’r Cyngor wedi adnabod fod angen adolygu darpariaeth addysg gynradd ym Mangor.’
Be’ nesa’?
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae’r buddsoddiad sylweddol yma yn ein galluogi ni i edrych ar ddarpariaeth addysg gynradd ym Mangor. Bydd hyn yn galluogi cychwyn trafodaeth yn lleol er mwyn sicrhau’r opsiynau gorau ar y ffordd ymlaen fel y gallwn ni wella’r ddarpariaeth a chynnig yr addysg o’r ansawdd gorau i blant y ddinas.”
Yn ôl datganiad y cyngor: ‘Os bydd adroddiad ar y mater yn cael cymeradwyaeth Cabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar Ionawr 17, bydd trafodaethau lleol yn dechrau ar adolygu darpariaeth addysg gynradd ym Mangor.
‘Y cam nesaf fyddai sefydlu Pwyllgor Adolygu Dalgylch dros y misoedd nesaf a fydd yn cynnwys penaethiaid, llywodraethwyr ac aelodau lleol er mwyn adnabod a thrafod opsiynau cyn cytuno ar opsiwn ffafredig a fydd yn ymateb i anghenion addysg yr ardal i’r dyfodol. Yn dilyn y broses yma, byddai cynllun busnes manwl yn cael ei gyflwyno am ystyriaeth Llywodraeth Cymru.’