Recep Tayyip
Mae comisiwn seneddol wedi cytuno i gyfres o newidiadau i’r gyfraith a fyddai’n rhoi mwy o bwerau i arlywydd Twrci.
Fe gafodd y newidiadau eu cymeradwyo yn ystod oriau mân ddydd Gwener, Rhagfyr 30, gan newid arlywyddiaeth seremonïol y wlad, i arlywyddiaeth sydd â grymoedd gweithredu llawn.
Mae disgwyl i bleidlais gael ei chynnal yn y cynulliad cyffredinol fis nesa’, a refferendwm posib ar y mater yn y gwanwyn.
Mae beirniaid yn ofni y byddai’r newidiadau arfaethedig yn caniatau i’r arlywydd, Recep Tayyip Erdogan, sydd eisoes â grym sylweddol tros ei blaid a’r llywodraeth, wedyn yn cael rhwydd hynt i reoli heb i neb ei herio.