Mae o leiaf 48 o ohebwyr newyddion wedi cael eu lladd wrth eu gwaith yn 2016, yn ôl ffigurau newydd y Pwyllgor Amddiffyn Newyddiadurwyr yn Efrog Newydd.
72 oedd y ffigwr yn 2015.
Bu farw 26 ohonyn nhw eleni o ganlyniad i ryfeloedd neu frwydro, a’r rheiny yn Syria, Irac, Yr Yemen, Libanus, Afghanistan a Somalia.
Cafodd 18 o ohebwyr eu targedu’n fwriadol am eu bod nhw’n newyddiadurwyr, y nifer lleiaf ers 2002.
Syria oedd y lle mwyaf peryglus i newyddiadurwyr eleni – a hynny am y pumed tro yn olynol, wrth i o leiaf 14 o newyddiadurwyr gael eu lladd yno yn ystod y flwyddyn.
Mae’r pwyllgor wedi bod yn casglu ffigurau a’u cofnodi ers 1992.