Mae Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhybuddio am beryglon tabledi ecstasi ‘tedi bêr pinc’.
Daw’r rhybudd ar ôl i ddau ddyn ifanc gael eu taro’n wael yn dilyn parti yr wythnos diwethaf. Cafodd un o’r dynion ei gludo i uned gofal dwys, ond mae’r ddau bellach wedi cael dychwelyd adre’.
Mae adroddiadau bod y ddau wedi cymryd y tabledi, ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Mae’r heddlu yn ymbil ar gynhyrchwyr y cyffur i roi’r gorau iddi ar unwaith.
Dywedodd Dr Hywel Hughes o Adran Frys Ysbyty Maelor Wrecsam: “Dros y blynyddoedd diwethaf, ’dan ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol sy’n dod i’n gofal ni ar ôl cael eu taro’n ddifrifol wael o ganlyniad i gymryd sylweddau seicoactif.
“Fedrwch chi ddim gwybod be sy yn y sylweddau hyn ac mi fedran nhw fod yn farwol.
“Tasech chi’n gweld yr effaith maen nhw’n ei gael, mi fyddech chi’n meddwl ddwywaith. Dydi hi ddim werth y risg.”