Mae’r dyn “arfog a pheryglus” sy’n cael ei amau o ymosodiad brawychol ar farchnad yn Berlin yn defnyddio chwe enw gwahanol, yn ôl yr awdurdodau.
Mae lle i gredu bod Anis Amri yn dod o Diwnisia, ond fod ganddo ddinasyddiaeth yn yr Aifft a Libanus.
Mae’r awdurdodau yn yr Almaen wedi cyhoeddi warant i’w arestio, gan ddweud eu bod nhw wedi gwrthod ei gais am loches ym mis Gorffennaf.
Cafodd deuddeg o bobol eu lladd a 48 eu hanafu pan darodd lori i mewn i farchnad nos Lun.
Mae Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – wedi hawlio cyfrifoldeb.
Cafodd dyn o Bacistan ei arestio wedi’r ymosodiad, ond fe gafodd ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad yn ddiweddarach.