Mae dyn 69 oed o Drefor yn Sir Fôn wedi’i garcharu am 13 o flynyddoedd am gyfres o droseddau rhyw hanesyddol.
Ymddangosodd Robert John Parry gerbron Llys y Goron Caernarfon, lle cafodd orchymyn i fynd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes, ac fe fydd rhaid iddo fod yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Shona Campbell, fu’n arwain yr ymchwiliad, ei fod yn “ysglyfaeth rhywiol” oedd wedi manteisio ar ei ddylanwad dros ddioddefwyr.
Dywedodd ei fod e wedi “tynnu eu plentyndod oddi arnyn nhw”, a bod y ddedfryd yn “adlewyrchu difrifoldeb ac erchylltra ei droseddau”.
Ychwanegodd fod Heddlu’r Gogledd yn trin unrhyw gwynion mewn modd difrifol ac yn cynnig cymorth i ddioddefwyr drwy gydol ymchwiliadau a’r broses erlyn.