Mae pump o bobol, gan gynnwys pedwar o blismyn ac un twrist o Ganada, wedi cael eu saethu’n farw yng Ngwlad yr Iorddonen.

Roedd yr ymosodiadau yn nhref Karak wedi’u hanelu’n benodol at yr heddlu.

Gwnaeth y rhai oedd yn gyfrifol ffoi mewn car wedi’r ymosodiad.

Yn ôl gwefan newyddion Al-Ghad, digwyddodd yr ymosodiad ger castell Karak.

Mae’r heddlu’n dal i geisio rheoli’r sefyllfa.