(Llun: SNP)
Gallai’r Alban sicrhau annibyniaeth mewn ail refferendwm pe bai Llywodraeth Prydain yn benderfynol o’i thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn groes i’w dymuniadau, yn ôl cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond.
Dywedodd Alex Salmond y byddai’r rheiny oedd wedi gwrthwynebu annibyniaeth yn 2014 yn cael eu dylanwadu i newid eu meddwl o dan y fath amgylchiadau.
Mae disgwyl i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi strategaeth ddydd Mawrth fydd yn egluro sut maen nhw’n bwriadu aros yn rhan o’r farchnad sengl ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn y strategaeth, mae’r SNP yn cynnig ffordd o drosglwyddo rhagor o bwerau Ewropeaidd i’r Alban ar ôl i’r broses ffurfiol ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Awgrymodd Alex Salmond y byddai’r Alban yn cynnal ail refferendwm annibyniaeth pe na bai’n cael aros yn rhan o’r farchnad sengl.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Y tro diwethaf, pan o’n i’n Brif Weinidog ac wedi dechrau’r broses hon a’r gefnogaeth i annibyniaeth yn 28%, ar ôl dwy flynedd fe gyrhaeddon ni 45%.
“Felly dw i ddim yn meddwl y byddai Nicola Sturgeon yn edifar cyn galw refferendwm annibyniaeth gyda chefnogaeth yn y 40au canol.
“Mewn sefyllfa lle byddai Llywodraeth y DU yn benderfynol, er gwaethaf cael pob cyfle, i dorri cysylltiadau’r Alban ag Ewrop, i dorri’n cysylltiadau fel gwlad Ewropeaidd ers 1,000 o flynyddoedd, yna dw i’n credu y byddai hynny’n dod â nifer o bobol oedd yn sinigaidd am annibyniaeth o’r blaen draw i’r ochr Ie.”
Wrth egluro strategaeth yr SNP ar raglen Murnaghan ar Sky News, ychwanegodd Alex Salmond: “Ry’n ni am i’r DU aros yn y farchnad sengl, os nad yw hynny’n bosibl a bod y Llywodraeth yn wfftio hynny yna ry’n ni am i’r Alban aros yn y farchnad sengl fel rhan o gytundeb arbennig, trefniant, ac os yw’r ddadl honno’n cael ei hwfftio, ei lluchio i’r naill ochr yn ddirmygus gan San Steffan, yna mae Prif Weinidog yr Alban wedi egluro ei bod hi’n debygol iawn y bydd refferendwm annibyniaeth o fewn y ddwy flynedd nesaf.”
Roedd 62% o Albanwyr o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Nicola Sturgeon ym mhapurau newydd yr Alban heddiw: “Gyda’n cynigion ni’r wythnos hon, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n barod i gyfaddawdu, gan gynnig sefyllfa nad yw’n ddewis cyntaf gennym, er mwyn cyrraedd consensws.
“Y cwestiwn nawr yw a fydd y llywodraeth Dorïaidd yn barod i wneud hynny hefyd, i amddiffyn buddiannau economaidd yr Alban a’n dymuniad pendant i aros wrth galon Ewrop.”