Mae cryn oedi ar yr A55 ar ôl i gar fynd ar dân.

Fe lwyddodd ceffyl i gyrraedd y ffordd hefyd, a hynny wedi ychwanegu at y problemau ar y ffordd ger Pant-y-Dulath.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11.40 y bore yma a chafodd y ffordd ei chau am gyfnod.

Mae hi wedi cael ei hail-agor i’r gorllewin erbyn hyn, ond mae’r traffig yn dal yn symud yn araf. Mae’r ffordd i’r dwyrain ynghau o hyd.