Mae cwmni ceir Volkswagen am gael gwared ar 30,000 o swyddi, a hynny er mwyn arbed £3.1biliwn y flwyddyn o 2020 ymlaen.
Bydd yr arian yma yn galluogi’r cwmni i wario mwy ar gerbydau trydan a gwasanaethau digidol.
Yn ôl swyddogion ym mhencadlys y cwmni yn Wolfsburg, bydd 23,000 o’r swyddi yn cael eu torri yn Yr Almaen.
Mae Volkswagen yn wynebu clec ariannol anferthol ar ôl cytuno i dalu £12.8 biliwn i berchnogion 500,000 o’u ceir yn America, yn iawndal am osod meddalwedd yn y cerbydau sy’n diffodd peiriannau rheoli allyriadau.
Ledled y byd mae tua 11 miliwn o geir wedi eu gwerthu gyda’r feddalwedd ddiffygiol.
Mae cwmni Volskwagen yn gwneud ceir Porsche, Audi, SEAR, Skoda a Lamborghini ac yn cyflogi dros 600,000 gyda 120,000 yn Yr Almaen.