Tirlithriad ar ffordd yn Kaikoura, Seland Newydd wedi'r daeargryn Llun: SNPA / David Alexander
Fe fydd Prif Weinidog Seland Newydd, John Key, yn ymweld â safle daeargryn grymus a achosodd tirlithriadau a swnami ddydd Sul, gan ladd dau o bobl.

Fe fu rhagor o ôl-ddirgryniadau heddiw, wrth i drigolion symud at dir uwch i osgoi’r tonnau mawr yn sgil y swnami bychan.

Roedd y daeargryn, a oedd yn mesur 7.8 ar raddfa Richter, wedi taro ardal wledig  yn Ynys y De toc wedi hanner nos ddydd Sul gan achosi difrod i ffyrdd a thirlithriadau.