Jo Cox AS (Llun: Yui Mok/PA)
Fe fydd y dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio’r Aelod Seneddol Llafur Jo Cox yn sefyll ei brawf yn yr Old Bailey yn ddiweddarach.

Honnir bod Thomas Mair, 53, wedi saethu a thrywanu’r AS yn ei hetholaeth yn Birstall ger Leeds ar 16 Mehefin.

Mae wedi’i gyhuddo o lofruddio Jo Cox, o fod a dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi trosedd ac o fod ag arf yn ei feddiant.