Llun: PA
Mae 79% o athrawon dosbarth derbyn yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw’n gweld bod gan blant oedran dechrau ysgol broblemau lleferydd, yn ôl arolwg newydd.

Nododd yr athrawon hyn fod plant yn eu dosbarthiadau’n cael trafferth siarad mewn brawddegau llawn.

Dywedodd 57% a gwblhaodd yr arolwg gan ComRes, ar ran Achub y Plant, fod plant sy’n wynebu’r anawsterau hyn hefyd yn ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau.

Yn ôl 89%, mae plant sy’n datblygu sgiliau lleferydd ac iaith yn hwyrach na’u cyfoedion yn syrthio y tu ôl i blant eraill.

Mae oedi yn natblygiad lleferydd ac iaith plant hefyd yn un o brif achosion y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy’n byw mewn tlodi a’u cyfoedion mwy cyfoethog.

Cytunodd 79% o athrawon fod tlodi yn ffactor yn niffyg sgiliau lleferydd plant, a dywedodd 97% fod angen buddsoddi mwy o arian yng ngwasanaethau’r blynyddoedd cynnar er mwyn codi safonau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi NAHT Cymru, Rob Williams: “Rydym yn gwybod fod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cyrraedd yr ysgol yn 4 oed, eisoes 40% y tu ôl i’w cyfoedion yn nhermau eu datblygiad.

“Yn aml mae ein haelodau yn enwi caffaeliad lleferydd ac iaith fel un o’r ardaloedd amlycaf ar gyfer cymorth ychwanegol ac oni bai yr eir i’r afael â’r gwahaniaeth yma yn gynnar gall gael effaith ar allu’r plentyn i gael at y cwricwlwm ehangach ac ar eu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.”

‘Anfantais’

Ychwanegodd Llywydd NAHT Cymru a Phennaeth Ysgol Gynradd Gladstone yn Y Barri, Caroline Newman: “Rydym yn sicr wedi gweld cynnydd sylweddol yn y nifer o’n plant sy’n dechrau yn yr ysgol yn cael trafferth gyda’u lleferydd ac iaith.

“Mae plant gyda sgiliau iaith gwael dan anfantais yn syth a gall hyn arwain at ymddygiad heriol oherwydd rhwystredigaeth sydd yn arafu datblygiad a dysg ymhellach.

“Mae dirfawr angen creu ymwybyddiaeth ymysg rhieni ac i’w cynnwys yn addysg eu plant a hefyd ar gyfer hyfforddiant ac arbenigaeth yn y maes blynyddoedd cynnar i roi’r cymorth sydd ei angen ar y plant hyn.”

Casgliadau pellach

Mae’r ymchwil ‘Barod i Ddarllen’ gan Achub y Plant (2015) yn dangos bod plant 5 oed sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio’n is na’r cyfartaledd mewn profion geirfa na phlant mwy cyfoethog.

Yng Nghymru mae un ym mhob pedwar o blant sy’n cael eu magu mewn tlodi yn gadael yr ysgol gynradd heb fod yn gallu darllen yn dda.

Mae darganfyddiadau eraill yr arolwg yn cynnwys:

 

Mae 85% yn dweud mai un o ganlyniadau dechrau yn y Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith gohiriedig yw bod plant yn ei chael hi’n anodd mynegi eu meddyliau neu eu syniadau. Mae 84% o athrawon yn dweud yr un peth o ran plant yn ei chael hi’n anodd dysgu sut i ddarllen.

Dywedodd tri chwarter (75%) o’r athrawon a holwyd mai un o ganlyniadau dechrau yn y dosbarth Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith gohiriedig ydi fod y plant yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth.

Dywedodd 70% o athrawon eu bod rhan amlaf yn gweld plant yn eu dosbarth yn ei chael hi’n anodd deall cyfarwyddiadau syml pan eu bod yn ymuno â’r Dosbarth Derbyn am y tro cyntaf.

Dywedodd dau draean (66%) mai canlyniad arall i blant sy’n dechrau yn y dosbarth Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith gohiriedig yw eu bod yn ei chael hi’n anodd dilyn nifer o weithgareddau sydd wedi eu gosod iddynt.

Dywedodd dros hanner yr athrawon(52%) mai canlyniad i blant sy’n dechrau’r ysgol yn y dosbarth Derbyn gyda sgiliau lleferydd ac iaith gohiriedig yw eu bod yn llai tebygol o fwynhau yn yr ysgol.

Galw ar y Llywodraeth i weithredu

 

Mae Achub y Plant yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod eu ‘Cynllun Drafft 10 Mlynedd ar Gyfer y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru’, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, yn sicrhau bod pob plentyn a rhiant yn y blynyddoedd cynnar yn cael mynediad i fwy o arbenigedd a chymorth.

 

Dywedodd pennaeth yr elusen, Mary Powell-Chandler: “Yng Nghymru mae llawer o waith wedi ei wneud i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad addysg rhwng plant sy’n byw mewn tlodi a’u cyfoedion mwy cyfoethog.

“Fodd bynnag, mae’r arolwg yma yn rhoi cipolwg i ni o’r problemau sy’n dechrau ym mlynyddoedd cynnar y plentyn, hyd yn oed cyn iddyn nhw gyrraedd giatiau’r ysgol.

“Mae tlodi yn niweidio dysg gormod o blant cyn iddynt gamu i mewn i’r ystafell ddosbarth hyd yn oed. Os ydym o ddifrif ynghylch cau’r bwlch cyrhaeddiad a rhoi’r dechreuad gorau bosib i bob plentyn, mae’n rhaid i ni weithredu mwy yn y blynyddoedd cynnar.

“Drwy gyfrwng ei chynllun gweithlu mae gan Lywodraeth Cymru gyfle pwysig i wella safon y gofal rydym yn gallu ei gynnig i blant ieuengaf Cymru. Mae Achub y Plant eisiau gweld gweithredu cadarn fel y bydd, erbyn diwedd y Cynulliad yma, pob plentyn yng Nghymru gyda’r cyfleoedd a’r gefnogaeth maen nhw eu hangen i ffynnu yn yr ysgol, a thu hwnt.”