Mae pobol ym Moldofa wedi dechrau pleidleisio yn etholiadau’r wlad i benderfynu a fyddan nhw’n symud yn wleidyddol agosach at Ewrop neu Rwsia.
Dyma’r etholiad arlywyddol cyntaf yn y wlad ers 20 mlynedd.
Mae’r Undeb Ewropeaidd a Rwsia ill dau wedi ceisio dylanwadu ar ddyfodol gwleidyddol y wlad lle mae 3.5 miliwn o bobol yn byw.
Mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi nos Sul.
Y ffefryn i ennill yw Igor Dodon, gwleidydd o’r Blaid Sosialaidd sy’n cefnogi grym Mosgo ac sy’n gwrthwynebu’r llywodraeth sy’n gefnogol i’r Undeb Ewropeaidd.
Ond ffefryn y rhai sy’n cefnogi’r Undeb Ewropeaidd yw’r cyn-economegydd Maia Sandu.
Pe na bai enillydd clir, fe fydd ail etholiad ar 13 Tachwedd.
Mae gan yr arlywydd rym dros benodi barnwyr llysoedd a llunio polisi tramor y wlad, ond mae angen cydsyniad seneddol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau eraill.
Mae Moldofa wedi’i tharo dros y blynyddoedd diwethaf gan honiadau o lygredd, ac roedd gan y wlad chwe phrif weinidog gwahanol o fewn blwyddyn yn 2014.
Ond mae’r senedd wedi llwyddo i gynnig rhywfaint o sefydlogrwydd ers hynny drwy basio deddfau gwrth-lygredd.