Fe ddioddefodd canolbarth Eidal ddau ddaeargryn yn syth ar ôl ei gilydd dros nos, gyda phentre’ mynyddig Ussita, canolbwynt y dirgrynu, yn cael ei chwalu’n llwyr.

Roedd yr ail ddaeargryn yn mesur 6.1, yn ôl y Ganolfan Seismoleg Rynglwadol.

Yr oedd y canolbwynt yn agos i dref Visso yn rhanbarth fynyddig  Marche  sy’n agos i’r ardal lle cafodd 300 o bobol eu lladd mewn daeargryn ddeufis yn ôl. Cafwyd adroddiadau fod nifer wedi dioddef man anafiadau.

Mae Maer Ussita, Marco Rinaldi, wedi disgrifio’r daeargryn fel digwyddiad apocalyptaidd: “Yr oedd llawer o dai wedi dymchwel. Erbyn rwan rwyf wedi teimlo llawer o ddaeargrynfeydd, ond dyma’r cryfa’ i mi eu gweld. Mae’n erchyll.”

Dywedodd fod dau berson mewn wedi cael eu hachub o’i cartrefi, ond roedd 200 o bobol yn Ussita yn bwriadu cysgu ar y stryd, am ei bod yn amhosib i osod pebyll yn nhywyllwch nos.

Yn ôl adroddiadau, fe gafodd y dirgryniadau eu teimlo mor bell a Fenis, Rhufain a Napoli.