Mae ymladdwyr tân wedi achub pymtheg o bobol, yn cynnwys pedwar o blant, o’r fflamau mewn bloc o fflatiau yn Lerpwl.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Glannau Merswy wedi cadarnhau fod wyth o’r trigolion wedi’u cludo i’r ysbyty o’r fflatiau yn Hampstead Road, Fairfield toc wedi hanner nos, nos Fercher.

Fe fu criwiau’n ymladd y fflamau ar lawr daear yr adeilad pedwar llawr, ac fe fu’n rhaid symud yr holl drigolion oddi yno.

Mae’r rhan fwya’ o’r bobol a gludwyd i’r ysbyty yn diodde’ o effeithiau anadlu mwg, ond mae un wedi’i losgi’n ddrwg hefyd.

Mae’r ymchwiliad i achos y tân yn parhau.