Fe fydd dwy ran o dair o greaduriaid asgwrn cefn y byd wedi diflannu erbyn diwedd y ddegawd hon, yn ôl gwaith ymchwil sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Mae data newydd sydd wedi’i gyhoeddi gan WWF a Chymdeithas Sŵolegol Llundain yn awgrymu bod y ffordd y mae pobol yn defnyddio ynni ac adnoddau naturiol fel cynhyrchion pren, a’r bwyd a diodydd rydym yn ei fwyta a’u hyfed, i gyd yn gallu cyfrannu at y pwysau sy’n cael eu rhoi ar rywogaethau.
Dogfen y Living Planet Report 2016 yw’r arolwg mwyaf cynhwysfawr yn y byd hyd yma o iechyd ein planed. Mae’n tynnu sylw at y ffordd mae gweithgareddau pobl gan gynnwys datgoedwigo, llygredd, gorbysgota a’r fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt, ynghyd â’r newid yn yr hinsawdd, yn gwthio poblogaethau rhywogaethau i ymyl y dibyn wrth i bobl lethu’r blaned am y tro cyntaf yn hanes y Ddaear.
* Mae poblogaethau byd-eang pysgod, adar, mamaliaid, amffibiaid ac ymlusgiaid eisoes 58% yn is nag yn 1970.
* Mae’r poblogaethau y mae ymddygiad pobol wedi effeithio arnyn nhw yn cynnwys eliffantod Affrica yn Tansanïa, bleiddiaid myngog yn Brasil, salamandrau Cryptobranchus alleganiensis yn America, crwbanod môr lledrgefn yn rhan drofannol Môr Iwerydd, morfilod danheddog yng nghefnforoedd Ewrop a llyswennod Ewropeaidd yn afonydd gwledydd Prydain.
Mae’n bosib datrys y sefyllfa…
Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau’n awgrymu bod datrysiadau yn bosib, ac mae’r Living Planet Report yn awgrymu’r canlynol:
* pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd yng Nghymru;
* cadarnhau cytundeb Paris ar y newid yn yr hinsawdd ar raddfa helaeth;
* cyfyngu ar y fasnach ryngwladol mewn rhywogaethau sydd o dan fygythiad gan gynnwys pangolinod a pharotiaid llwyd Affrica;
* pasio mesurau cadwraethol a allai arwain at gynnydd ym mhoblogaethau byd-eang teigrod a phandas.
Wyneb yn wyneb â difodiant
“Am y tro cynta’ ers oes y deinosoriaid, rydym yn wynebu difodiant bywyd gwyllt ar raddfa fawr,” meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru.
“Mae camddefnydd pobol o adnoddau naturiol yn bygwth cynefinoedd, gan wthio rhywogaethau unigryw i ymyl y dibyn, a bygwth sefydlogrwydd ein hinsawdd.
“Gwyddom sut i roi terfyn ar hyn. Yng Nghymru, mae gennym gyfreithiau da i’n helpu i ddatrys y broblem hon. Mae angen i Lywodraeth Cymru, awdurdodau cyhoeddus eraill, busnesau a chymunedau gydweithio i wneud yn siŵr ein bod yn gadael ein byd naturiol mewn cyflwr sy’n addas at y dyfodol.”