Y dyn sy'n cael ei amau o ladrad arfog yn Swyddfa'r Post, Trelai, Caerdydd Llun: Heddlu De Cymru
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ynglŷn â lladrad arfog yn Swyddfa’r Post yng Nghaerdydd.

Roedd dyn yn gwisgo mwgwd ac yn cario cyllell wedi bygwth gweithiwr yn Swyddfa’r Post yn Nhrelái, Caerdydd am 8.47 bore dydd Mawrth, 25 Hydref.

Roedd y dyn wedi mynnu arian o’r til ond fe wrthododd y weithwraig ac wrth iddi geisio amddiffyn ei hun, roedd y dyn wedi anafu ei breichiau gyda’r gyllell.

Yn dilyn hynny,  roedd y dyn wedi ffoi.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r drosedd i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600412037.