Mae ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr, Donald Trump wedi taro’n ol yn erbyn cyhuddiadau ei fod yn closio at Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Bu’n rhaid i’w bartner yn y ras arlywyddol, Mike Pence wadu honiadau mewn dadl deledu ddoe. Ac wedyn, mewn rali y tu allan i ddinas Las Vegas, fe fu’n rhaid i Donald Trump wrthod.

“Maen nhw’n dweud fod Donald Trump yn caru Putin,” meddai. “Dw i ddim yn caru, a dw i chwaith ddim yn casau. Bydd yn rhaid inni weld sut fydd yn gweithio.”

Ond fe wfftiodd Hillary Clinton, ei wrthwynebydd yn y ras arlywyddol, ei ymateb, gan ddweud, “Mae ganddo ddiddordeb rhyfedd mewn unbenaethiaid”.