Mae senedd gwlad Pwyl wedi pleidleisio’n unfrydol i wrthod gwaharddiad llwyr ar erthylu yn y wlad.

Fe ddaeth y cynnig gan griw o bobol oedd wedi casglu tua 450,000 o lofnodion, a’r bwriad oedd gwneud erthyliad yn anghyfreithlon ar bob cyfri’ – hyd yn oed mewn achosion lle’r oedd merch wedi’i threisio. Roedd y cynllun gerbron y senedd hefyd yn argymell carcharu unrhyw fenyw a fyddai’n dod â’i beichiogrwydd i ben.

Ond roedd yn gynllun hynod o amhoblogaidd ymysg y mwyafrif o Bwyliaid, ac fe fu miloedd o ferched allan ar y strydoedd yn protestio ddydd Llun yr wythnos hon, pob un wedi’i gwisgo mewn du.

Roedd nifer o aelodau’r blaid geidwadol sy’n rheoli, wedi cefnogi’r cynllun yn wreiddiol. Mor ddiweddar â phythefnos yn ôl, roedd mwyafrif o’r seneddwyr wedi pleidleisio i ystyried y mater.

Ond, dan bwysau llethol gan bobol gwlad Pwyl, fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol yn erbyn y syniad heddiw, a hynny o 352-58.