Mae cwmni awyrennau EasyJet wedi datgelu eu bod wedi gwneud colled o £200 miliwn o ganlyniad i gwymp yng ngwerth y bunt yn dilyn digwyddiadau y maent yn ddisgrifio fel rhai anarferol.

Dywedodd y cwmni teithiau awyr rhad eu bod wedi dioddef clec gan feio ymosodiadau brawychol led-led Ewrop, yr Aifft a Tunisa ynghyd â streiciau ymhlith staff rheolaeth traffig awyr yn Ffrainc ac argyfwng gwleidyddol yn Nhwrci.

Fe ychwanegodd y cwmni fod y cwymp yng ngwerth y bunt ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn ffactor amlwg. Yr oedd gwerth y bunt wedi disgyn i’r lefel isaf ers 31 mlynedd yn erbyn y doler ac wedi costio £90 miliwn i’r cwmni.

“Yr ydym wedi cael ein effeithio gan ddigwyddiadau anarferol eleni,” meddai pennaeth Cwmni Easyjet, Carolyn McCall.

“Mae’r amgylchedd bresennol yn anodd i’r holl gwmnïau awyr,  ond mae hanes yn dangos fod y cwmniau awyr cryfaf yn mynd yn gryfach. Dyna pam ein bod am barhau i fuddsoddi y nein llwyddiant tymor hir i’r busnes.”