Gwyntoedd cryfion yn Haiti
Mae trefi a phentrefi ar hyd penrhyn de orllewin Haiti wedi cael eu taro gan wyntoedd cryfion a glaw trwm yn sgil corwynt Matthew.

Mae’r storm hefyd wedi taro rhannau eraill o Haiti yn ogystal â Jamaica a’r Weriniaeth Dominica.

Mae corwynt Matthew wedi cofnodi gwyntoedd o 145mph ac mae rhagolygon yn darogan y bydd yn pasio dros dde orllewin Haiti cyn symud ymlaen at dde orllewin Ciwba.

Mae llawer o drigolion Haiti wedi gwrthod symud gan ddweud eu bod yn ofni y gallai eu heiddo prin gael eu dwyn. Er hynny, mae o leiaf 1,200 o bobl wedi cael eu symud i lochesi mewn eglwysi ac ysgolion.

Dywedodd rhagolygon y gallai’r cymaint â 40 modfedd o law ddisgyn ar rai ardaloedd o Haiti.

Hyd yma, mae o leiaf tri o bobl wedi marw oherwydd y corwynt. Boddodd pysgotwr yn Haiti, a bu farw dyn yng Ngholombia a chafodd person ifanc ei ladd yn St Vincent a’r Grenadines wrth i’r storm symud drwy’r Caribî.

Matthew yw corwynt cryfaf y rhanbarth ers Felix yn 2007.