Marchnad stoc Llundain Llun: PA
Mae gwerth y bunt wedi gostwng yn erbyn y ddoler i’w lefel isaf ers 31 mlynedd yn sgil pryderon am Brexit.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai’r bunt fod gwerth yr un faint a’r ewro erbyn y flwyddyn nesaf.
Roedd y bunt wedi gostwng 0.5% yn erbyn y ddoler fore dydd Mawrth gan gyrraedd ei lefel isaf ers 1985.
Bu gostyngiad o 0.2% yng ngwerth y bunt hefyd yn erbyn yr ewro, gan gyrraedd 1.14, ei lefel isaf ers 2013.
Mae cyfres o gyhoeddiadau yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham wedi cynyddu pryderon ymhlith buddsoddwyr, ar ôl i Theresa May ddweud y byddai’r broses o drafod gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn dechrau erbyn diwedd mis Mawrth gan arwain at gytundeb “Brexit caled.”
Byddai hyn yn golygu bod Prydain yn colli mynediad llawn i’r farchnad sengl fel rhan o gynlluniau i adennill rheolaeth dros fewnfudo.
Ddoe, fe rybuddiodd y Canghellor Philip Hammond bod yr economi yn wynebu cyfnod ansefydlog iawn dros y blynyddoedd nesaf.