Confoi o loriau yn cludo cymorth dyngarol i Syria Llun: UNHCR
Mae cerbydau oedd yn cludo nwyddau dyngarol i Syria wedi cael eu taro gan gyrchoedd awyr ac mae lle i gredu bod nifer wedi’u hanafu a’u lladd yn ei sgil.
Yn ôl Prif Swyddog dyngarol y Cenhedloedd Unedig, Stephen O’Brien, mae adroddiadau’n awgrymu fod tua 12 wedi’u lladd a nifer ohonynt yn yrwyr y lorïau ac yn wirfoddolwyr i elusen y Red Crescent.
Galwodd yr ymosodiadau’n “ffiaidd” gan bwysleisio fod y naill ochr yn ymwybodol y byddai’r cerbydau’n teithio drwy’r ardal i gludo cymorth i tua 78,000 o bobol.
Roedden nhw’n cludo nwyddau i dref Uram al-Kubra i’r gorllewin o ddinas Aleppo, ac mae lle i gredu bod o leiaf deunaw o’r 31 o’r lorïau wedi’u taro.
Daw hyn â dyfodol ansicr i’r Cadoediad yn Syria a gytunwyd arno wythnos yn ôl rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia.
Y Cadoediad
Daeth y Cadoediad i rym ar Fedi’r 12, ac roedd ei ymrwymiadau yn golygu cwblhau saith diwrnod o dawelwch er mwyn rhoi cyfle i ddarparu nwyddau dyngarol, cyn cytuno wedi hynny sut i fynd i’r afael â grŵp y Wladwriaeth Islamaidd.
Ond, bydd dyfodol y Cadoediad yn cael ei drafod heddiw gan ugain o wledydd sy’n rhan o Grŵp Rhyngwladol Cefnogi Syria, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Rwsia a’r Unol Daleithiau.