Carwyn Jones (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi cynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru heddiw, bedwar mis ers etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Mae’r cynllun – ‘Symud Ymlaen Cymru’ – yn glynu at y prif addewidion ym maniffesto’r Blaid Lafur, ac mae Carwyn Jones wedi cadarnhau nad yw’r rheiny wedi gwanhau “er gwaethaf yr ansicrwydd yn sgil pleidlais Brexit.”
Mae’r prif nodweddion yn cynnwys parhau â’r cynllun metro De Cymru, creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau a darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio.
‘Ffynnu, iach ac egnïol’
“Mae pum mlynedd eithriadol bwysig o’n blaen. Er bod penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn creu tipyn o ansicrwydd ac yn cyflwyno tipyn o heriau, mae ein mandad yn glir,” meddai Carwyn Jones.
“Bydd Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio’n ddiflino ar wella’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus, sydd gyda’i gilydd yn sylfaen i fywydau beunyddiol ein pobol,” ychwanegodd.
“Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu Cymru sy’n fwy hyderus, yn fwy cyfartal, yn fwy medrus ac yn fwy cadarn. Fel gwlad rydym eisoes yn cyflawni mwy na’r disgwyl, ac rydym nawr yn barod i wneud mwy.
“Rydw i am weld Cymru ddiogel sy’n ffynnu, Cymru iach ac egnïol, Cymru uchelgeisiol sy’n dysgu, Cymru unedig a chysylltiedig,” meddai.
Ymrwymiadau
Mae’r prif ymrwymiadau’n cynnwys:
- Ysgogi mewnfuddsoddi a chreu swyddi drwy gynnig cymorth i fusnesau. Golyga hyn dorri treth a biliau llai i 70,000 o fusnesau.
- Darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn.
- Creu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bobol o bob oed, cyflawni Bargen Dinas-ranbarth Caerdydd a datblygu bargen debyg i Abertawe a Bargen Twf ar gyfer y Gogledd.
- Darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, gan gynnwys 6,000 o gartrefi drwy’r cynllun Cymorth i Brynu.
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth Cymru.
- Anelu at ostwng 80% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.
- Gwella gwasanaethau gofal iechyd, buddsoddi mewn staff a hyfforddiant, lleihau amseroedd aros.
- Buddsoddi £100 miliwn i wella safonau ysgolion dros y tymor nesaf, parhau i ddatblygu cwricwlwm newydd a buddsoddi bron £2 biliwn erbyn 2024 mewn ailwampio ysgolion.
- Cynnig pecyn o gymorth i fyfyrwyr yn seiliedig ar argymhellion Adolygiad Diamond.
- Darparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4 yn y De-ddwyrain, ynghyd â gwelliannau i’r A55 yn y Gogledd, yr A40 yn y Gorllewin a chefnffyrdd eraill; creu Metro De Cymru a bwrw ymlaen i ddatblygu Metro Gogledd Cymru; a datblygu masnachfraint rheilffyrdd newydd, dielw o 2018, a darparu rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws, unwaith y bydd y pwerau wedi’u datganoli;
- Diddymu adrannau o ddeddfwriaeth Undebau Llafur Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig a chymryd camau pellach o ran y cyflog byw, cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau.
- Cynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru.
- Gweithio gyda llywodraeth leol i adolygu’r dreth gyngor.
- Parhau i fuddsoddi i annog mwy o bobl i siarad a gweithio tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
‘Gadael Cymru’n dlotach’
Er bod Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud ei bod yn “anodd anghytuno â nifer o’r ymrwymiadau yn y cynllun” mae’n beirniadu’r polisïau.
Dywed Andrew RT Davies: “Mae 17 mlynedd o dan Lafur wedi gadael Cymru yn dlotach a llai hafal” gan ychwanegu fod “honiad Carwyn Jones fod Cymru’n perfformio’n well na’r disgwyl yn rhith.
“O dan Lafur, mae’r system addysg yng Nghymru yn disgyn y tu ôl i Fietnam, mae ardaloedd mawr o Gymru yn dlotach nag ardaloedd o Fwlgaria, Romania a Gwlad Pwyl, ac mae amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gyda’r hwyaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
‘Difflach’
Yn ôl Rhun ap Iorwerth AC Plaid Cymru, mae rhaglen Llywodraeth Cymru yn “ddifflach”, gan ychwanegu ei bod yn adlewyrchu methiant Llafur i gyflwyno syniadau dyfeisgar i gryfhau’r economi Gymreig ac i godi safonau yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC dros Ynys Môn: “Prin y gall y gagendor rhwng Rhaglen Lywodraeth Llafur a Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru fod yn fwy o ran sylwedd, sgôp ac uchelgais.
“Nid yw’n syndod fod maniffesto difflach wedi arwain at raglen lywodraeth ddifflach. Ydi, mae’n dda gweld elfennau o’r hyn y sicrhaodd Plaid Cymru yn sgil ein cytundeb un-bleidlais ar ol yr etholiad, yn cynnwys addewid i greu 100,000 o brentisiaethau newydd a chronfa cyffuriau a thriniaethau newydd, ond mae diffyg dyfeisgarwch Llafur yn gwbl glir unwaith eto.
“Rydym yn benderfynol o weithredu fel prif wrthblaid gadarn a chyfrifol, yn herio Llafur i wneud yn well, ac i’w dwyn i gyfrif pan fyddant yn siomi pobl Cymru.”