Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Nid yw Brexit yn golygu bod y DU yn troi ei chefn ar y byd, fe fydd Theresa May yn dweud wrth y Cenhedloedd Unedig heddiw.

Ond fe fydd y Prif Weinidog yn cydnabod bod yn rhaid i wleidyddion o bob rhan o’r byd wneud mwy i wrando ar bryderon y cyhoedd.

Yn ei hanerchiad cyntaf i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, fe fydd Theresa May yn dweud bod angen “gweithredu cadarn” a chydweithrediad rhyngwladol i gwrdd â heriau’r byd.

Fe fydd yn defnyddio ei hymddangosiad gerbron arweinwyr byd yn Efrog Newydd i ddweud mai’r Cenhedloedd Unedig yn unig all fynd i’r afael a materion fel brawychiaeth, mewnfudo a chaethwasiaeth fodern.

Daw ei hymweliad wrth i fesurau diogelwch gael eu tynhau ar ôl i sawl bom ffrwydro yn Efrog Newydd a New Jersey dros y penwythnos. Mae dyn sy’n cael ei amau o’r ymosodiadau yn cael ei gadw yn y ddalfa.