‘Gwarth’ – dyna farn Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig i’r gwahaniaethau rhwng ffigurau Cymru a Lloegr o ran cyfraddau goroesi cancr.
Roedd y ffigurau, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn cofnodi’r achosion yn y ddwy wlad rhwng 2010 a 2015. O’r naw math gwahanol o gancr dim ond cyfraddau goroesi cancr y brostad yng Nghymru oedd yn well na Lloegr, o ran nifer y cleifion fyddai’n goroesi am flwyddyn.
Roedd cyfraddau goroesi Cymru o gancr yr ymennydd i ddynion 8% yn llai na Lloegr, cancr yr ofari 7.1% yn llai, a chancr yr ysgyfaint 6.3% yn llai ymysg merched.
Ac o ran cyfraddau goroesi pum mlynedd, roedd Cymru yn well na Lloegr mewn dau wahanol fathau o gancr, sef cancr y brostad a’r bledren i ddynion, a chancr y fron a’r bledren i ferched.
‘Gwarth’
“Dyw hyn yn ddim llai na gwarth fod gan ddwy genedl drws nesaf i’w gilydd gymaint o wahaniaeth yn y cyfleoedd i oroesi ar ôl cancr,” meddai Angela Burns AC a llefarydd ar iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
Dywedodd fod y canlyniadau’n ymwneud ag amseroedd aros am driniaeth cancr, diffyg argaeledd cyffuriau newydd a strategaeth iechyd sydd angen ei “chyllido’n well.”
“Mae Cymru yn gartref i rai o ymchwilwyr gorau’r byd o ran ymchwil cancr ac yn arwain y ffordd o ran datblygiadau cyffuriau atal cancr – felly mae’n hanfodol bod ein pobol yn elwa o hynny,” meddai.
“Dylai unrhyw strategaeth i wella canlyniadau i gleifion gynnwys integreiddio gwell ar waith ymchwil arloesol gyda gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd, strategaeth iechyd y cyhoedd sy’n mynd i’r afael ag achosion canser, a sicrhau bod cronfa cyffuriau cancr ar gael yn rhwydd.”
‘Parhau i wella’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Does dim modd cymharu’r ffigurau hyn, gan eu bod yn ymwneud â chyfnodau amser hollol wahanol ac yn defnyddio methodolegau gwahanol.
“Mae cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn. Bydd mwy na hanner y bobl sy’n cael canser yn byw am bum mlynedd ar ôl y diagnosis, ac mae marwolaeth gynamserol oherwydd canser wedi gostwng tua 14% dros y deng mlynedd diwethaf.
“Ry’n ni wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd gydweithredol yng Nghymru i adeiladu ar y gwelliannau hyn ac i fynd i’r afael â’r galw am wasanaethau canser. Y prif feysydd ry’n ni’n canolbwyntio arnyn nhw yw gwaith atal, diagnosis cynnar, diwygio llwybrau gofal er mwyn i gleifion cael eu trin yn gyflymach ar ôl cael eu cyfeirio am driniaeth, a chefnogi ymchwil i’r triniaethau gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”