Philadelphia

Mae un person wedi marw yn dilyn ymosodiad arfog yn Philadelphia.

Cafodd dau aelod o’r heddlu a thri o bobol eraill eu hanafu ar ôl i ddyn eu saethu yn Philadelphia.

Cafodd plismones ei saethu hyd at wyth o weithiau wrth iddi eistedd yn ei char.

Cafodd y dyn ei saethu’n farw gan yr heddlu yn dilyn y digwyddiad nos Wener.

Mae aelodau’r heddlu mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty a thri arall mewn cyflwr difrifol.

Dydy’r heddlu ddim wedi rhyddhau manylion am yr ymosodwr.