Fe fydd dyn 37 oed yn ymddangos gerbron ynadon ddydd Sadwrn, wedi’i gyhuddo o lofruddio cyfreithwraig yn Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn ardal yr Hafod brynhawn dydd Mawrth, yn dilyn adroddiadau bod dyn yn galw am gymorth.

Mae Dean Marcus Jones wedi’i gyhuddo o lofruddio Alison Jane Farr-Davies, oedd yn gweithio yn ardal Bournemouth.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion i’r digwyddiad, yn enwedig nifer o bobol oedd wedi ffonio’r heddlu ar ôl gweld dyn yn y stryd.

Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan rywun a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal ddydd Sul yn ystod y gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Chelsea, gan y gallai fod yn berthnasol i’r ymchwiliad.