Mae dyn 43 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn 61 oed yng Nghaerffili.

Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac o fod ag arf yn ei feddiant yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Caerdydd yr ardal nos Iau.

Bydd yn ymddangos gerbron ynadon yng Nghasnewydd y bore ma.

Mae’r dyn 61 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.