Fe fydd Nathan Gill yn traddodi araith yng nghynhadledd UKIP yn Bournemouth ddydd Sadwrn, ar ôl i Diane James, arweinydd newydd y blaid, benderfynu na fyddai Neil Hamilton yn cael siarad.
Roedd Hamilton, arweinydd y blaid yn y Cynulliad, i fod i draddodi araith o chwarter awr.
Yn lle hynny, fe fydd gan Gill bum munud i siarad, ac fe fydd egwyl ychwanegol am goffi am y deg munud arall.
Doedd Hamilton ddim wedi cael gwybod am y sefyllfa tan i ohebwyr ddweud wrtho, ac fe ddywedodd ei bod yn “ffordd ryfedd” o geisio uno’r blaid.
‘Chwa o awyr iach’
Yn ôl Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, Diane James “yw’r chwa o awyr iach” sydd ei angen ar y blaid.
Dywedodd wrth golwg360 fod arweinydd newydd Prydeinig UKIP “yn bopeth nad oedd Nigel (Farage)”, a bod hynny’n beth dda.
“Mae’n broffesiynol, mae ganddi gefndir gwych, mae’n bopeth nad oedd Nigel. Rydym i gyd yn caru Nigel ond mae ei amser wedi mynd ac mae’n bryd cael newid,” meddai Nathan Gill.
Prif dasg Diane James, yn ôl Gill, fydd codi statws UKIP fel yr wrthblaid swyddogol nesaf, gyda’r blaid yn gobeithio manteisio ar lanast y Blaid Lafur a dwyn pleidleisiau’r dosbarth gweithiol.
“Yn syth, mae wedi nodi’r hyn mae am wneud, sef i ddod â’r blaid fel yr wrthblaid swyddogol nesaf, a does dim llawer o heriau sy’n fwy na hynny.
“Dyna’r hyn rydym yn mynd i wneud, gweithio gyda’n gilydd, a gwneud [i hynny ddigwydd].”
Ond achubodd Hamilton ar y cyfle i ladd ar Diane James, gan ddweud y byddai hi’n ei chael hi’n “anodd ei diffinio’i hun”.
Dim ond pum munud fydd gan unig aelod seneddol UKIP, Douglas Carswell hefyd.