Nathan Gill
Yn ôl Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, Diane James “yw’r chwa o awyr iach” sydd ei angen ar y blaid.
Dywedodd wrth golwg360 fod arweinydd newydd Prydeinig UKIP “yn bopeth nad oedd Nigel (Farage)”, a bod hynny’n beth dda.
“Mae’n broffesiynol, mae ganddi gefndir gwych, mae’n bopeth nad oedd Nigel. Rydym i gyd yn caru Nigel ond mae ei amser wedi mynd ac mae’n bryd cael newid,” meddai Nathan Gill.
Cafodd Diane James, Aelod Seneddol Ewrop UKIP, ei hethol yn arweinydd y blaid heddiw, gyda 47% o’r bleidlais, sef 8,451 o bleidleisiau.
Yn ei haraith gyntaf ar ôl cael ei hethol, dywedodd ei bod am gadw llygad barcud ar drafodaethau Brexit a chyhuddodd y Torïaid o ddwyn llawer o bolisïau UKIP.
UKIP: Gwrthblaid swyddogol?
Prif dasg Diane James, yn ôl Nathan Gill, fydd codi statws UKIP fel yr wrthblaid swyddogol nesaf, gyda’r blaid yn gobeithio manteisio ar lanast y Blaid Lafur a dwyn pleidleisiau’r dosbarth gweithiol.
“Yn syth, mae wedi nodi’r hyn mae am wneud, sef i ddod â’r blaid fel yr wrthblaid swyddogol nesaf, a does dim llawer o heriau sy’n fwy na hynny,” ychwanegodd Nathan Gill.
“Dyna’r hyn rydym yn mynd i wneud, gweithio gyda’n gilydd, a gwneud [i hynny ddigwydd].”
Ateb ‘beth yw UKIP?’
Un arall yn hapus iawn o weld Diane James yn llywio awenau UKIP yw Llŷr Powell, un o ymgyrchwyr amlycaf y blaid yng Nghymru.
Mae wedi cael profiadau’n gweithio gyda’r arweinydd newydd wrth ei gwaith ym Mrwsel, ac yn ystod y refferendwm diweddar.
“Mae lot o bobol yn gofyn cwestiynau nawr am UKIP ac mae’n rhaid i Diane nawr ateb pa ffordd y mae’r blaid yn mynd i fynd,” meddai Llŷr Powell wrth golwg360.
“Mae angen i ni edrych nawr beth sydd nesaf i’r blaid a beth mae pobol eisiau ac mae’n rhaid i Diane edrych nawr ar sut i gael mwy o bobol [Aelodau Seneddol UKIP] i mewn i San Steffan.
“Roedd pawb yn gwybod ein bod ni am adael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’n rhaid i Diane ateb y cwestiwn nawr: ‘beth yw UKIP?’”
Mae’n bendant mai Diane James yw’r person sydd ei angen i “symud y blaid ymlaen” ac yn dilyn y ffraeo mewnol sydd wedi bod, mae’n hyderus y gall yr arweinydd newydd uno UKIP eto.
Mae Llŷr Powell am i bobol “roi cyfle” i’r arweinydd newydd a chofio mai “nid Nigel” yw hi.
“One in a million yw Nigel, dydyn ni ddim yn mynd i gael un arall fel ‘na,” meddai Llŷr Powell.
“Rwyf am weld Diane fel Diane, a ddim yn trio bod yn Nigel Farage, mae hynny’n bwysig iawn.”