Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ym Mharis fel rhan o ymchwiliad i frawychiaeth.

Ond dywed yr heddlu nad yw’n gysylltiedig â chynllwyn Notre Dame na chwaith y criw o bobol a gafodd eu harestio yn y brifddinas yr wythnos diwethaf.

Roedd y bachgen eisoes yn cael ei gadw yn y ddalfa yn ei gartref ar ôl i Ffrainc gyhoeddi argyfwng.