Mae Hillary Clinton wedi cyfaddef iddi “gyffredinoli” wrth alw hanner cefnogwyr Donald Trump yn “fasged llawn trueniaid”.

Yn ôl Trump, yr ymgeisydd arlywyddol ar gyfer y Gweriniaethwyr, roedd ei sylwadau wedi sarhau llawer o Americanwyr ac y byddai hynny’n cael effaith negyddol ar ei hymgyrch fel ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid.

Lai na 24 awr ar ôl gwneud y sylw o flaen 1,000 o bobol mewn noson i godi arian at y gymuned LGBT, dywedodd Clinton ei bod hi’n “difaru dweud hanner”, ond mae hi’n dal i gredu eu bod nhw’n “drueniaid”.

“Mae e [Trump] wedi adeiladu ei ymgyrch yn bennaf ar ragfarn a pharanoia ac wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i safbwyntiau a lleisiau atgas, gan gynnwys ail-drydar culfeirnaid a chanddyn nhw hanner dwsin o ddilynwyr a lledaenu eu neges i 11 miliwn o bobol.

“Os ga i fod yn gyffredinol dros ben, fe allech chi roi hanner cefnogwyr Trump i mewn i fasged o drueniaid. Cywir? Yr hiliol, y rhywiaethol, yr homoffobig, y senoffobig, yr Islamoffobig…”

Ond dywedodd fod y gweddill yn haeddu cydymdeimlad.

Costus

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Trump ar Twitter y byddai’r sylwadau’n costio’n ddrud i’w wrthwynebydd yn yr etholiad am yr arlywyddiaeth.

Dywedodd ei bartner etholiadol, Mike Pence fod cefnogwyr Trump yn “Americaniaid sy’n gweithio’n galed, yn ffermwyr, yn lowyr, yn athrawon, yn gyn-filwyr, yn aelodau o’n cymuned sy’n gweithredu’r gyfraith, yn aelodau o bob dosbarth yn y wlad sy’n gwybod y gallwn ni godi America unwaith eto i fod yn fawr.”

Mae deufis o ymgyrchu ar ôl tan yr etholiad ar Dachwedd 8.