Mae rhoddwr blaenllaw wedi cael ei ddiarddel gan y Blaid Lafur am gymharu tîm arweinyddiaeth Jeremy Corbyn â’r Natsïaid, yn ôl y BBC.

Mewn erthygl yn y Mail on Sunday fis yn ôl, dywedodd Michael Foster nad oes gan y tîm sy’n arwain yr ymgyrch am yr arweinyddiaeth “unrhyw barch at bobol eraill ac yn waeth fyth, dim parch tuag at y gyfraith”.

Yn ôl y Blaid Lafur, cafodd Foster ei ddiarddel am dorri rheolau etholiad drwy sarhau unigolion.

Ond yn ôl Foster, doedd e ddim wedi defnyddio’r gair ‘Natsi’, er bod y gair wedi ymddangos ym mhennawd yr erthygl.

Cafodd yr erthygl ei chyhoeddi ar ôl i’r Uchel Lys wrthod ymgais gan Foster i atal Llafur rhag rhoi’r hawl i Corbyn sefyll yn awtomatig am yr arweinyddiaeth.

Yn ei erthygl, dywedodd Foster fod “parchu’r gyfraith yn sylfaenol i ddemocratiaeth”, gan gyfeirio at wersyll Dachau a chyfundrefn Erdogan yn Nhwrci.

Ond dywedodd fod penderfyniad yr Uchel Lys “o fantais i Corbyn a’i Sturm Abteilung”.

Mae Foster yn mynnu bod y Mail on Sunday wedi ychwanegu’r gair ‘Natsi’ i’r pennawd cyn cyhoeddi’r erthygl.

Cafodd ei ddiarddel ar Fedi 7, a does dim hawl ganddo fe gymryd rhan yn yr ymgyrch am yr arweinyddiaeth am y tro.

Mae’r asiant adloniant wedi rhoi mwy na £400,000 i’r Blaid Lafur dros y ddwy flynedd diwethaf, ac roedd yn ymgeisydd seneddol dros y blaid yn 2015.