Mae corwynt Newton wedi lladd dau o bobol ym Mecsico, ac mae tri o bobol yn dal ar goll.

Wrth i wyntoedd o hyd at 90 milltir yr awr daro ardal Los Cabos ar yr arfordir, cafodd ffenestri eu torri a choed eu dymchwel.

Bu farw’r ddau pan wnaeth eu cwch droi drosodd yng Ngwlff Califfornia ar ei ffordd i Mazatlan o Ensenada.

Mae rhai trigolion wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi, tra bod eraill yn cyfri’r gost yn dilyn difrod. Ond yn ôl swyddogion y fyddin yn yr ardal, dim ond peth difrod a gafwyd.

Mae’r corwynt bellach ar ei ffordd tua’r gogledd i gyfeiriad Môr Cortez, a gwyntoedd ar eu gwaethaf wedi cyrraedd 75 milltir yr awr.

Mae disgwyl i’r corwynt gyrraedd talaith Sonara yn ystod y dydd, cyn mynd yn storm drofannol erbyn amser cinio wrth iddo gyrraedd rhannau o Arizona a New Mexico, lle mae rhybudd am lifogydd a thirlithriadau.

Mae’n ddwy flynedd bellach ers i Gorwynt Odile daro Los Cabos, pan gafodd cartrefi, siopau a gwestai eu difrodi’n sylweddol.