Fe fydd gwleidyddion Iwerddon yn dychwelyd i senedd y Dail heddiw i drafod penderfyniad y Comisiwn Ewropeaidd fod rhaid i’r llywodraeth dalu biliynau o bunnoedd i gwmni technoleg Apple.
Mae llywodraeth Iwerddon wedi dweud eu bod nhw’n barod i apelio yn erbyn y penderfyniad, fydd yn eu gweld nhw’n talu hyd at 13 biliwn Ewro mewn budd-daliadau treth dyledus.
Mae gwleidyddion wedi cael gweld dogfen ariannol 16 tudalen cyn cynnal y ddadl heddiw.
Mae’r llywodraeth yn dweud bod Apple wedi cael ffafriaeth wrth iddyn nhw dalu cyfradd treth o 1% ar elw o’r Undeb Ewropeaidd yn 2003, a bod y ffigwr wedi gostwng i 0.005% erbyn 2014.
Mae’r Comisiynydd Cystadleuaeth, Margrethe Vestager wedi bod yn ymchwilio i’r sefyllfa ers tair blynedd, ac fe fu’r gwaith yn canolbwyntio ar drafodion ariannol y cwmni dros chwarter canrif.