Mae newyddiadurwraig ar fws ar ar gyfer y cyfryngau yng Ngemau Olympaidd Rio, yn dweud fod dwy ffenest wedi’u chwalu’n deilchion gan fwledi o ynnau wrth iddyn nhw deithio o le i le yn y parc Olympaidd.

Mae Lee Michaelson wedi bod yn gohebu ar bêl-fasged menywod, ond mae hi hefyd yn gyn-gapten yn Awyrlu’r Unol Daleithiau. Ei hymateb cynta’ hi oedd gorwedd ar lawr y bws pan glywodd swn y ffenestri’n torri, meddai, gan alw ar deithwyr eraill i wneud yr un peth.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiad, ond mae swyddogion y Gemau yn niwlog iawn ynglyn â beth yn union achosodd y difrod i ffenestri’r bws.

“Dw i’n nabod swn gwn,” meddai Ms Michaelson. “Mi glywais i’r swn, cyn i’r ffenestri chwalu a chyn i mi weld y gwydr ym mhob man.

“Efo fy nghefndir i a fy hyfforddiant, mi orweddais ar lawr, a gweiddio ar bawb arall ar y bws i wneud yr un peth.”