Mae ymosodiad o’r awyr, dan arweiniad Sawdi Arabia, wedi lladd 14 o bobol gyffredin oedd yn gweithio shifft nos mewn ffatri ym mhrifddinas Yemen.

Roedd y bomiau wedi’u bwriadu ar gyfer safle lle’r oedd gwrthryfelwyr Shiiaidd, ond fe darodd un ohonyn nhw ffatri gynhyrchu bwyd yn ardal al-Aqil.

Mae’r gynghrair, dan arweiniad Sawdi Arabia, yn rhwystro neb arall rhag hedfan yn y gofod uwchben dinas Sanaa.