Andy Burnham
Mae Andy Burnham wedi ennill y frwydr i fod yn ymgeisydd Llafur yn etholiad Maer Greater Manchester.

Mae hi’n “anrhydedd fawr”, meddai Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid.

Mae wedi rhybuddio llywodraeth Dorïaidd San Steffan y bydd yn gwneud yn siwr eu bod yn delifro ar yr addewid o greu pwerdy economaidd yng ngogledd Lloegr, os y caiff ei ethol yn 2017.

Fe gurodd Andy Burnham ddau ymgeisydd arall er mwyn bod yn ymgeisydd – y Maer dros dro, Tony Lloyd, a’r cyn weinidog Llafur, Ivan Lewis.