Mae beth bynnag 63 o bobol wedi’u lladd wedi i fom ffrwydro wrth brif glwyd ysbyty sy’n cael ei rhedeg gan y llywodraeth yn ne-orllewin Pacistan.

Yn ol adroddiadau, mae dwsinau o bobol eraill wedi’u hanafu yn y ffrwydriad yn ninas Quetta ben bore Llun. Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Fe ffrwydrodd y ddyfais toc wedi i gorff Bilal Kasi, cyfreithiwr amlwg a gafodd ei saethu’n farw yn gynharach heddiw, gael ei gludo i’r ysbyty.

Roedd yna ddwsinau o gyfreithwyr a newyddiadurwyr yng nghyntedd yr ysbyty pan ffrwydrodd y bom.